fbpx

Mae eich diogelwch yn bwysig i ni ac mae gennym gyfres o fesurau diogelwch gweladwy a synhwyrol ar waith.

Bagiau

Gall pob bag fod yn destun chwiliadau diogelwch cyn mynd i mewn i’r adeilad. O’r herwydd, byddem yn gofyn i chi beidio â dod ag unrhyw fagiau mawr i’r lleoliad gan y gallai hyn achosi oedi cyn mynd i mewn.

Ni ddylid dod ag unrhyw fagiau sy’n fwy na bag llaw cyffredin i’r theatr. Nid oes gennym ystafell gotiau ar y safle, ac felly ni allwn storio unrhyw fagiau.

Sylwch: ni chaniateir i unrhyw un sy’n gwrthod chwiliad diogelwch ddod i mewn.

Llun a Fideo

Oni nodir yn wahanol, gwaharddir yn llwyr dynnu lluniau neu recordio sioeau mewn unrhyw ffordd. Mae hyn allan o barch ein perfformwyr, ac rydym yn cadw’r hawl i ofyn am ddileu unrhyw ddeunydd o’r fath.

Mynychu

Os ydych chi’n mynychu perfformiad theatr, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n cyrraedd mewn digon o amser i’r gwiriadau diogelwch hyn ddigwydd, yn enwedig os oes angen i chi gasglu tocynnau o’r ddesg docynnau a all fod yn brysur iawn cyn y sioe.

Gwaherddir dronau yn llwyr o’n safle a’r ardal gyfagos.

Adolygiad

Mae ein mesurau diogelwch yn cael eu hadolygu’n gyson ac rydym yn cadw’r hawl i newid trefniadau ar fyr rybudd.

Diolch am eich cydweithrediad.